Lȏn Selar, Llanengan

Enw gwreiddiol un o hen dai y pentref oedd Selar, a’r ffordd fechan hon oedd yn arwain at y tŷ hwnnw. Dros y clawdd, tu cefn i’r arwydd hwn, mae tŷ sylweddol a elwir erbyn heddiw yn The Rock. Yma, yng nghanol yr 17G, safai’r Selar. Tybir mai Creigir Selar oedd yr enw cyntaf, ond Selar mae’n cael ei alw yng nghofnodion yr Eglwys.

Yn y 18G roedd Selar yn gartref i John Marc a’i wraig Jane, ac wedyn i’w mab Richard Jones a’i wraig Elizabeth, y tad a’r mab yn eu tro yn ymgymryd ȃ swydd Clerc a gyflogid gan eglwys y plwyf.

Old photo of Llanengan with house named Belle Vue on the leftGanwyd William, cyntaf anedig Richard Jones a’i wraig, yn 1777,  yr hynaf o chwech o blant, a’r unig un i gyrraedd ei ddwyflwydd oed. Fel y gwnaeth ei dad a’i daid cynt, cymerodd William enw cyntaf ei dad yn ȏl yr arferiad, ac fel William Richards mae’n cael ei adnabod. 

Yn ŵr ifanc ymunodd ȃ’r Llynges Brydeinig a chafodd ei ddyrchafu’n Gapten gan y Morlys wedi dangos arweiniad a dewrder mewn brwydr gydag un o longau Napoleon Bonaparte wrth arfordir gorllewinol Ffrainc. 

Wedi’r rhyfel aeth i wasanaeth yr Arglwydd Newborough a phan gartref ym Mhwllheli yn 1818 cyfarfu â Sarah Constable, merch i deulu cyfoethog o Northampton. Priododd y ddau yn 1819, flwyddyn wedi i William etifeddu'r Selar. Yn ystod y cyfnod hwn gwnaed newidiadau mawr i’r  hen dŷ. Dyblwyd ei faint i’r tŷ o sylwedd a welir heddiw, adeiladwyd stablau a chafwyd mynedfa newydd o’r ffordd fawr. Gwnaed i ffwrdd â’r hen enw Y Selar a galwyd y tȳ newydd yn Belle Vue, golygfa braf yn Ffrangeg, ond mae’r lȏn fechan hon oedd yn arwain at y tȳ gwreiddiol yn dal i gael ei galw’n Lȏn Selar ac yn fodd i gadw’r hen enw ar gof. 

Yn 1998 newidiwyd yr enw yn The Rock pan fu’r lle yn dŷ bwyta am gyfnod gweddol fyr.

Gyda diolch i Diogelu Enwau Llanengan

Map